Grantiau celf i bobl dros 50 oed
Published on 12 October 2015 09:30 AM
Hoffai Age Cymru wahodd y cyhoedd i gymryd rhan mewn gŵyl gelfyddydau ledled Cymru ar gyfer pobl dros 50 oed fis Mai nesaf, trwy wneud cais am Grant Cymunedol Gwanwyn.
Mae'r grantiau ar gael i grwpiau neu unigolion sydd eisiau trefnu digwyddiad celfyddydol ar gyfer pobl dros 50 oed yn ystod gŵyl Gwanwyn ym mis Mai 2016.
Gallai'r rhain fod yn ddosbarthiadau paentio neu ffotograffiaeth; gweithdai cerdd, drama neu adrodd straeon, neu arddangosfeydd celf - unrhyw weithgaredd lle mae pobl dros 50 oed yn cael cyfle i gymryd rhan yn y celfyddydau.
Byddwn yn croesawu ceisiadau oddi wrth unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan - corau, cartrefi gofal, grwpiau cymunedol, grwpiau awduron - unrhyw un sydd eisiau dathlu creadigrwydd ymhlith pobl dros 50 oed gyda ni ym mis Mai.
I gael ffurflen gais Grant Cymunedol Gwanwyn, a phecyn gwybodaeth sy'n cynnwys manylion ynghylch sut i ymgeisio, ewch i wefan Gwanwyn neu ffoniwch Age Cymru ar 029 2043 1555.